Canolfan awyr agored newydd i wella anghydraddoldebau iechyd a llesiant
22/02/2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi darparu’r safle hwn ar gyfradd rhent rhad i’r prosiect gan fod y bwrdd iechyd ac Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Cae Felin wedi ymrwymo i ddefnyddio syniadau arloesol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella llesiant yn Abertawe.
Y nod yw gweithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu’r safle yn ardd farchnad gynaliadwy sy’n gweithio gyda byd natur i gyflenwi ffrwythau a llysiau o safon uchel.
I ddechrau, asesodd y tîm gyflwr presennol y tir a dylunio cynllun rheoli ar gyfer y safle fel y gallent ei helpu i ffynnu. Roedd y dull cyfannol o ddatblygu’r safle yn allweddol i gael aelodau o’r gymuned ar y cae i gyfrannu at a chymryd rhan yn y nod o brosiect amaethyddol bioamrywiol ffyniannus.
Ar y pwynt hwn, esboniodd y cydlynydd gwirfoddolwyr Simon Peacock eu bod wedi ‘ffensio’r cae, creu a gwella’r cynefin bywyd gwyllt trwy adfer gwrychoedd a glaswelltir corsiog, adeiladu a gosod blychau adar ac ystlumod a chreu cynllun rheoli bioamrywiaeth yn seiliedig ar arolwg cam 1 ecolegol.’
Mae’r tir eisoes yn cael ei ddefnyddio i blannu perllan gymunedol ac mae’r tîm wedi sefydlu gardd arddangos gyda gwelyau uchel a thŷ gwydr, a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer ysgolion ac ymwelwyr.
Er mwyn cyflawni eu nod o greu cynllun bocsys llysiau amaethyddol, mae Cae Felin wedi bwriadu adeiladu gardd farchnad dim cloddio ar gyfer cynnyrch y tymor hwn, gyda’r nod o ddarparu mynediad teg i fwyd ffres fforddiadwy o ansawdd uchel, yn ogystal â gofod cymuned werdd.
Mae’r tîm yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr ar hyn o bryd. Maent am i bobl ddod i’r cae i gysylltu â byd natur, dysgu sgiliau newydd a thyfu cymunedau. Bydd digonedd o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer pobl o bob oed a phob gallu, felly ewch draw i faeddu eich dwylo!
Lorem ipsum dolor sit amet, consetetur sadipscing elitr, sed diam nonumy eirmod tempor invidunt ut labore et dolore magna aliquyam erat.