Ymgeisiwch nawr ar gyfer Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru
28/09/2023
Yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd ar gyfer Cymru i helpu i sbarduno mwy o ffocws a mwy o weithredu i gwrdd â’r heriau a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd.
Yng Nghymru, mae gennym darged sy’n gyfreithiol rwymol i gyrraedd y nod o allyriadau sero-net erbyn 2050, ochr yn ochr ag uchelgais i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn sero net ar y cyd erbyn 2030.
Yn 2018/19 amcangyfrifwyd bod Ôl Troed Carbon GIG Cymru yn 1,001,378 tCO2e, a bod yr ‘allyriadau iechyd’ hyn tua 2.6% o gyfanswm allyriadau Cymru.
Nododd arolwg panel Dewch i Drafod Iechyd y Cyhoedd a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Felly, er bod Rhaglen Genedlaethol Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi’i sefydlu i alluogi’r arweinyddiaeth a’r cydweithredu sydd eu hangen i ddarparu sector sero net sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, cydnabyddir bod holl staff GIG Cymru yn y sefyllfa orau i ddylanwadu a chefnogi’r broses i ddarparu newid cynaliadwy. Gall profiad a chreadigrwydd staff GIG Cymru trwy eu dysgu a’u hymgysylltu rhwng cymheiriaid ysbrydoli, ysgogi a helpu i gyflawni gwelliannau cynaliadwy hanfodol sy’n ofynnol gan y sector iechyd i gyfrannu ar y cyd at uchelgais y sector cyhoeddus, a thargedau newid hinsawdd ehangach Cymru.
Lorem ipsum dolor sit amet, consetetur sadipscing elitr, sed diam nonumy eirmod tempor invidunt ut labore et dolore magna aliquyam erat.