Digwyddiad: Seminar THINK: Gwytnwch Trafnidiaeth Gyhoeddus i Newid yn yr Hinsawdd
10/10/2023
Mae THINK wedi gwahodd tri siaradwr i rannu eu mewnwelediadau i sut mae newid hinsawdd yn y DU yn mynd i effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth ac iechyd, a’r hyn y gellir ei wneud i addasu i’r newidiadau hyn i sicrhau y gall gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol barhau hyd yn oed wrth i batrymau tywydd mwy anghyson ac eithafol ddod yn norm.
Mae Dr Emma Ferranti yn ymgymryd ag ymchwil ryngddisgyblaethol ar groestoriad isadeiledd, yr amgylchedd adeiledig a seilwaith gwyrdd. Ar hyn o bryd, mae ganddi Gymrodoriaeth EPSRC sy’n archwilio sut y gall Atebion Seiliedig ar Natur ddarparu gwytnwch seilwaith i dywydd eithafol a newid yn yr hinsawdd. Mae Emma hefyd yn arwain ac yn cyfrannu at amrywiaeth o brosiectau ym meysydd trafnidiaeth, gwytnwch seilwaith, ymaddasu i’r hinsawdd, ansawdd aer a seilwaith gwyrdd yn yr Ysgol Beirianneg ym Mhrifysgol Birmingham. Cyn hynny, roedd hi’n Gymrawd Cyfnewid Gwybodaeth NERC yn hwyluso trosglwyddo gwybodaeth ar groestoriad seilwaith gwyrdd ac ansawdd aer. Yn eiriolwr dros goed yn yr amgylchedd trefol, mae Emma yn cyd-hwyluso’r rhwydwaith Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio cenedlaethol, yn cyd-drefnu’r Gyfres Seminarau ar-lein, a chyd-ddatblygu adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymarferwyr yr amgylchedd adeiledig. https://research.birmingham.ac.uk/en/persons/emma-ferranti/publications/
TDAG: https://www.tdag.org.uk/
Mae Nerys Edmonds yn Brif Swyddog Asesu Effaith ar Iechyd (HIA) yn Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Nerys wedi bod yn rhan o’r gwaith o arwain Asesiad Effaith ar Iechyd cynhwysfawr ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd, lles ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd – Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Lles (phwwhocc.co.uk)
Aleka Toogood yw’r Arweinydd Ymaddasu i’r Hinsawdd a Chydnerthedd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, lle mae’n arwain y gwaith o gyflawni Cynllun Ymaddasu i’r Hinsawdd a Chydnerthedd Trafnidiaeth Cymru ac yn goruchwylio risg a chydnerthedd hinsawdd. Mae Aleka wedi bod yn gweithio yn y sector trafnidiaeth ers dros 10 mlynedd ac mae wedi treulio’r pedair blynedd diwethaf yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd. Mae hi’n cadeirio gweithgor Ymaddasu i Newid Hinsawdd Trafnidiaeth Cymru ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Trafnidiaeth Cymru am bolisïau Cymru a’r DU sy’n ymwneud â newid hinsawdd. Mae Aleka yn angerddol am adeiladu cydnerthedd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar atebion a fydd yn darparu cyd-fuddion economaidd-gymdeithasol ac yn cadw cymunedau mewn cysylltiad.
Cynllun ymaddasu i’r hinsawdd a chydnerthedd | Trafnidiaeth Cymru (tfw.wales)
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
Lorem ipsum dolor sit amet, consetetur sadipscing elitr, sed diam nonumy eirmod tempor invidunt ut labore et dolore magna aliquyam erat.